P-05-1012 Triniaeth mewn siambr ocsigen i gleifion ffibromyalgia wedi'i hariannu drwy'r GIG

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Katie Nicole Jones, ar ôl casglu cyfanswm o 64 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu triniaeth mewn siambr ocsigen i ddioddefwyr ffibromyalgia wedi'i hariannu drwy'r GIG.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae ymchwil a wnaed i driniaeth mewn siambr ocsigen yn dangos bod y driniaeth hon yn lleihau symptomau ffibromyalgia ac yn helpu pobl i roi terfyn ar eu meddyginiaeth. Er y gall meddyginiaeth helpu pobl, mae'n gallu arwain at sgil-effeithiau annymunol.

 

Mae'r astudiaethau hyn yn cynnwys yr astudiaethau a ganlyn:

https://journals.plos.org/plosone/article?id=10.1371/journal.pone.0127012

 

https://ard.bmj.com/content/77/Suppl_2/461.3

 

Mae'r astudiaethau hyn yn dangos y gallai'r driniaeth hon helpu llawer o ddioddefwyr—dioddefwyr fel fi—i fyw bywyd sy'n fwy llawn ac yn fwy iach. Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn dymuno sicrhau bod y driniaeth hon ar gael.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Aberafan

·         Gorllewin De Cymru